Datganoli a dargyfeiredd: Iechyd a gofal cymdeithasol yn y deyrnas unedig
Datganoli a dargyfeiredd: Iechyd a gofal cymdeithasol yn y deyrnas unedig
30 Tachwedd – 1 Rhagfyr 2009
Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Yn y degawd ers cyflwyno datganoli yn y DU, mae cynllunio, darpariaeth a blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol pedair gwlad yr Undeb yn ymddangos fel petaent yn gynyddol ddargyfeiriol. Bydd y gynhadledd hon yn astudio i ba raddau y mae hyn yn digwydd mewn gwirionedd a beth yw'r goblygiadau ar gyfer darparu gwasanaethau, arfer proffesiynol, datblygiad proffesiynol ac addysg gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol. Bydd yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau, gwneuthurwyr polisi, rheolwyr, ymarferwyr proffesiynol, cynrychiolwyr cyrff proffesiynol a rheoleiddio, ymchwilwyr ac addysgwyr i ddod at ei gilydd i drafod y materion hyn ac i ystyried y goblygiadau ar gyfer darparu a datblygu gwasanaeth yn y dyfodol.
Yn benodol, bydd y gynhadledd yn ystyried:
- I ba raddau y mae dargyfeiredd yn realiti?
- Ydy dargyfeiredd yn ganlyniad patrymau gwahanol o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol neu syniadaeth wleidyddol wahanol?
- Ydy dargyfeiredd yn codi problem ar gyfer addysg a datblygiad proffesiynol?
- Sut mae dargyfeiredd yn effeithio ar undod rheoleiddio gweithwyr gofal iechyd a rheoleiddio datganoledig gweithwyr gofal cymdeithasol?
- Ydy/a fydd dargyfeiredd yn creu gofynion gwahanol ar gyfer addysg, cofrestru a datblygiad gweithwyr gofal cymdeithasol?
- Pa faterion y dylid eu monitro neu ymchwilio iddynt er mwyn llywio polisi ac arfer yn y dyfodol?
Bydd y gynhadledd yn cynnwys nifer o siaradwyr allweddol gan gynnwys Dr Scott Greer o Brifysgol Michigan a Choleg Prifysgol Llundain, y mae ei waith yn canolbwyntio'n arbennig ar ddatblygiad polisi iechyd ar ôl datganoli yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Bydd siaradwyr eraill hefyd, gan gynnwys cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau, ymarferwyr, addysgwyr, myfyrwyr a chyrff proffesiynol.
Y bwriad yw mai'r gynhadledd hon yw'r gyntaf mewn cyfres gyson o gynadleddau bob dwy flynedd, a fydd yn gyfle i ddweud ble yr ydym ar hyn o bryd, i archwilio ble mae'r dyfodol yn mynd â ni ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd, a chyda'n gilydd yn y maes cyffrous, newydd hwn. Mae deialog yn elfen hanfodol o'r gynhadledd, a bydd cyfleoedd i gyfranogion gyflwyno papurau a phosteri yn archwilio goblygiadau dargyfeiriadaeth o ran polisi ac arfer ym mhedair gwlad y DU ar ôl datganoli, yng nghyd-destun:
- Y defnyddiwr gwasanaeth
- Addysg
- Ymarferwyr
Registration is open now. Please click here to register.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Clare Kell (Kellc@cardiff.ac.uk) ac ati hi hefyd y dylid anfon negeseuon e-bost sy'n amlinellu papurau a phosteri arfaethedig, erbyn hanner dydd, dydd Llun 22 Mehefin..


