Cymraeg
Croeso i wefan HEALTH, sy'n cynrychioli Canolfannau Pwnc yr Academi Addysg Uwch ar gyfer Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer (HSAP) a Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth (MEDEV), gan weithio gydag addysgwyr, cymunedau a sefydliadau i hyrwyddo a gwella dysgu i fyfyrwyr yn y disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Ceir mwy o wybodaeth yn yr adran Amdanom Ni.
"Ar ran y Bwrdd, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i chi i'r wefan hon sy'n adlewyrchu cydweithrediad agos rhwng ein canolfannau pwnc sy'n gysylltiedig ag iechyd. Sefydlwyd bwrdd ymgynghorol yn 2006 i arwain a llywio gweithgareddau ar y cyd ac ar wahân y canolfannau ar gyfer Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer, ac ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth. Rydym ni'n meddwl bod yr agwedd aml-broffesiynol hon yn adlewyrchu cyfeiriad polisi ar gyfer addysg ac ymarfer gofal iechyd, ac yn gobeithio y bydd yn arwain at well gwasanaeth i chi."
Yr Athro Dorothy Whittington, Cadeirydd, Bwrdd Ymgynghorol


